Enw: Margaret Hughes
Ffugenw: Leila Megàne
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1960
Priod: William John Hughes
Priod: Thomas Osborne Roberts
Rhiant: Jane Phillip Jones (née Owen)
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cantores
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams
Ganwyd Bethesda, Caernarfon, 5 Ebrill 1891, yn un o ddeg plentyn Thomas Jones, aelod o heddlu Arfon, a Jane Phillip (ganwyd Owen) ei wraig. Symudodd y teulu i Bwllheli yn 1894, ac yno y magwyd y gantores. Collodd ei mam pan oedd yn 7 oed, ac aberthodd ei thad lawer er mwyn rhoi addysg gerddorol iddi. Astudiodd ganu am gyfnod gyda John Williams, arweinydd Cymdeithas Gorawl Caernarfon, a'r unawd gyntaf iddi ei chanu'n gyhoeddus oedd ' Gwlad y delyn ' (John Henry) yn 1907. Yn fuan ar ôl hynny derbyniodd ei hymrwymiad cyntaf i ganu mewn cyngerdd yn Aber-soch, a chael cydnabyddiaeth o bymtheg swllt. Un o'r rhai a'i clywodd yn canu yn y cyngerdd hwnnw oedd Harry Evans, a broffwydodd y deuai'n gantores enwog os câi ei hanfon i astudio canu at athro cymwys.
Yn Eisteddfod Môn ym Miwmares yn 1910, cystadlodd am y tro cyntaf, a chael y wobr yno am ganu 'Gwraig y pysgotwr' (Eurgain), gyda Thomas Price (1857 - 1925) a T. Osborne Roberts yn beirniadu. Yn 1910 hefyd (gyda thros 50 yn cystadlu) enillodd ar yr unawd contralto agored yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, a chael cryn ganmoliaeth gan David Evans y beirniad. Yn fuan ar ôl hynny fe'i dygwyd i sylw George Power (athro canu llwyddiannus yn Llundain) gan Mrs. Ernest Taylor, a'i clywsai'n canu yn Llanbedrog, ac aeth i astudio i'r Academi Gerdd Frenhinol. Yn Llundain (dan yr enw Megan Jones) daeth i amlygrwydd mewn cyngherddau baledi, a chafodd gynorthwy gan David Lloyd George, ac eraill, i astudio ymhellach am chwe blynedd yn Paris gyda'r datganwr enwog Jean de Reszke, a fuasai'n ddisgybl i Cotagni yn Turin. Ar ôl mabwysiadu'r enw Leila Megàne (ar awgrym de Reszke) derbyniodd ei hymrwymiad proffesiynol cyntaf, sef cytundeb dwy fl. i ganu Massenet yn yr Opera Comique, Paris. (Y mae'r wisg y canai ynddi yn opera Paris yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffa*gan.) Yr oedd yn Ffrainc ar ddechrau Rhyfel Byd I, a threuliodd gyfnod yn difyrru milwyr clwyfedig, a thynnu sylw gwleidyddion amlwg, yn eu plith yr Arglwydd Balfour, Bonar Law a Winston Churchill.
Yn dilyn ysbeidiau o ganu mewn gwahanol dai opera yn Ffrainc ac ym Monte Carlo, derbyniodd yn 1919 ymrwymiad pum mlynedd i ganu yn Covent Garden, lle y gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn Therese (Massenet) ym mis Mai y flwyddyn honno, gyda Lloyd George a Melba, y gantores enwog, yn y gynulleidfa yn gwrando arni. Yn 1920, canodd am y tro cyntaf yn un o gyngherddau'r Aeolian Hall, ac am wyth mlynedd bu'n canu'n rheolaidd yn y Queen's Hall dan gyfarwyddyd Henry Wood. Ar ôl taith lwyddiannus yn Ewrop, a chanu yn La Scala Milan, ac ym Moscow, derbyniodd yn 1923 wahoddiad i ganu yn y Metropolitan Opera House, Efrog Newydd. Priododd (1) yn Efrog Newydd, 21 Mawrth 1924, â T. Osborne Roberts a fuasai'n cyfeilio iddi mewn cyngherddau gartref ac mewn gwledydd tramor, ac yn ddiweddarach gwnaeth y ddau eu cartref ym Mhentrefoelas. Bu'n gyfrifol am boblogeiddio amryw o ganeuon a ysgrifennodd ei phriod, yn eu plith 'Y Nefoedd', 'Cymru annwyl' a 'Pistyll y llan'. Cefnodd ar ganu cyhoeddus yn 1939.
Yr oedd yn berchen llais contralto aeddfed a chyfoethog, gyda llawer o gynhesrwydd yn nodweddu ei datganu. Ymhlith yr eitemau a recordiodd rhwng tuag 1920 ac 1925 y mae detholion o opera Ffrengig (yn cael eu canu yn Ffrangeg), gweithiau gan Handel, caneuon Cymraeg, a Sea pictures (Elgar), gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain y perfformiad.
Priododd (2), 6 Hydref 1951 yn Llanrwst â William John Hughes, Efailnewydd, un o'i chyfoedion, a gŵr a fu'n cyngherdda llawer gyda hi cyn iddi fynd i'r Academi Gerdd Frenhinol. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1956, sefydlwyd ysgoloriaeth yn dwyn ei henw i gynorthwyo cantorion ieuanc Cymreig yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Bu farw yn sydyn yn ei chartref, Melin Rhyd-hir, Efailnewydd, ger Pwllheli, 2 Ionawr 1960, a'i chladdu ym Mhenrhos, Pwllheli.
Awdur
- Huw Williams, (1922 - 2002)
- 'A Springtime of song' (ei hunangofiant mewn teipysgrif, dyddiedig 24 Ionawr 1934, a oedd ym meddiant Mrs. W. O. Jones, Treffynnon, yn 1960)
- The Liverpool Daily Post, 8 Hydref 1951 a 4 Ionawr 1960
- Cerddoriaeth Cymru, cylchgrawn y Gymdeithas er hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru, 3, rhif 8 (1970), 35
- gwybodaeth gan ei merch, Effie Isaura Osborne-Hughes, Pwllheli
- Megan Lloyd Ellis, Hyfrydlais Leila Megáne (Llandysul 1979)
Ffynonellau
- Ilid Anne Jones, Leila Megàne: anwylyn cenedl (Llanrwst 2001)
- Erthygl Wicipedia: Leila Megane
Darllen Pellach
- Archifau LlGC: NLW MSS 15281-15301: Leila Mégane manuscripts
- Archifau LlGC: Leila Mégane and T. Osborne Roberts Papers and Correspondence
- VIAF: 25539862
- Wikidata: Q6519893
Dolenni Ychwanegol
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/